MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL YCHWANEGOL

Y BIL LLEOLIAETH

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

1. “Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 ac NNDM4722, y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny s gynigir yn y Bil Lleoliaeth mewn perthynas â Chynlluniau Blaendaliadau Tenantiaid a thrwyddedu HMOs, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.” 

 

Y Cefndir

 

2. Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mharagraff 1 uchod wedi'i gyflwyno gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, o dan Reol Sefydlog 29.6 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol) . Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cael ei osod o dan Reol Sefydlog 29.2. Mae Rheol Sefydlog 29 yn rhagnodi bod yn rhaid cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at unrhyw ddiben sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

 

3. Cafodd y Bil Lleoliaeth (y Bil) ei gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2010. Mae copi o'r Bil i'w weld yn: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

Crynodeb o'r Bil a'i Amcanion Polisi

 

4.  Mae'r Bil yn cael ei noddi gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Nod Llywodraeth y DU yw y bydd y Bil yn datganoli rhagor o bwerau i gynghorau ac i gymdogaethau, yn rhoi rheolaeth i gymunedau lleol dros wneud penderfyniadau, gan gynnwys gwneud hynny drwy ddefnyddio cymhellion ariannol. Mae'n ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar ystod eang o'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ar dai, cynllunio a llywodraeth leol.  

5.  Mae darpariaethau yn y Bil a fydd yn fodd i rymuso pobl leol ac i ryddhau llywodraeth leol o reolaeth ganolog a rhanbarthol. Mae hefyd yn darparu y caiff cymunedau lleol fod yn rhan o dwf lleol, ac ar gyfer system gynllunio fwy effeithlon a lleol.  

6. Mae Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol (NNDM4642 ac NNDM4722) yn ymwneud â'r Bil Lleoliaeth wedi'i gyflwyno eisoes yn y Cynulliad Cenedlaethol, a rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ei gydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil, i'r graddau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu hystyried gan y Senedd

 

7. Mae'r Memoranda oedd ynghlwm â'r Cynigion hynny i'w gweld yn Atodiad 1 a 2.  

 

Darpariaethau pellach y mae angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar eu cyfer, ac amcanion polisi.

 

8. Ers i'r Bil gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2010, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nifer o ddarpariaethau pellach drwy gyfrwng gwelliannau gan y Llywodraeth.

 

9.  Cyflwynodd Llywodraeth y DU nifer o welliannau ar 5 Gorffennaf 2011, a oedd yn gwneud mân welliannau technegol i'r ddeddfwriaeth sylfaenol ynghylch Cynlluniau Blaendaliadau Tenantiaid a thrwyddedu HMOs sydd yn Neddf Tai 2004. Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd i'w gweld ar wefan Senedd y DU yn: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

10.  Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 9 yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol fel y nodir ym Mharagraff 11 o Atodlen 7 ("Tai") yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006. 

 

11. Gan fod y gwelliannau arfaethedig i'r Bil Lleoliaeth yn mynd y tu hwnt i'r cydsyniad a roddwyd yn flaenorol gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol pellach o dan Reol Sefydlog 29.

 

12. Dyma'r hyn y bydd y gwelliannau hyn i'r cymalau sydd yn y Bil eisoes, ynghyd â'r cymalau newydd, yn ei wneud:

 

a)  Cynlluniau Blaendaliadau Tenantiaid: Cynigir diwygio Deddf Tai 2004 i wneud mân welliannau technegol i rannau o'r Ddeddf ynghylch Diogelu Blaendaliadau Tenantiaid i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn diogelu blaendaliadau tenantiaid yn llwyr ac yn cau bylchau yn y ddeddfwriaeth gyfredol fel y'i drafftiwyd.

 

b)  Trwyddedu HMOs: Bydd y gwelliannau hefyd yn newid y ddeddfwriaeth gyfredol ar drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMOs) i eithrio adeiladau a reolir gan gydweithrediaethau tai cwbl gydfuddiannol nad ydynt yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o'r gofynion trwyddedu.

 

13. Gan hynny, mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn wedi'i osod, ac mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi'i gyflwyno, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i'w hystyried.

 

Manteision defnyddio'r Bil hwn

 

14. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn gan Senedd y DU gan mai dyma'r dull deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur o alluogi'r darpariaethau hyn i fod yn gymwys yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd

 

 

 

Goblygiadau Ariannol

 

15. Ni ragwelir y bydd unrhyw oblygiadau ariannol i Lywodraeth Cymru na fydd modd eu hysgwyddo fel rhan o'r rhwymedigaethau sydd arni ar hyn o bryd, o ganlyniad i weithredu darpariaethau perthnasol Bil Lleoliaeth Senedd y DU.

 

 

Huw Lewis AC

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Gorffennaf 2011

ATODIAD 1

 

MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL

 

Y BIL LLEOLIAETH

 

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol

 

1.      “Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau sy'n ymwneud ag atebolrwydd llywodraeth leol o ran cyflogau, dileu'r ddyletswydd i hybu democratiaeth leol, dileu'r ddyletswydd ddeisebau, cyflawni dyletswyddau digartrefedd drwy'r sector rhentu preifat ac ynghylch diwygio'r Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid yn Rhannau 1 a 6 o'r Bil Seneddol Lleoliaeth (“y Bil”), fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 13  Rhagfyr 2010, i'r graddau y mae'r darpariaethau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”               

 

Y Cefndir

 

2.      Cyflwynwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mharagraff 1 uchod gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, o dan Reol Sefydlog 26.4 o Reolau Sefydlog (“RhS”) Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”). Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cael ei osod o dan Reol Sefydlog 26.2. Mae Rheol Sefydlog 26 yn rhagnodi bod yn rhaid cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, neu os yw'n dwyn effaith negyddol ar y cymhwysedd hwnnw.

 

3.      Cyflwynwyd y Bil Seneddol Lleoliaeth gerbron Tŷ'r Arglwyddi ar 13 Rhagfyr 2010. Mae copi o'r Bil i'w weld yn:

 

http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html           

 

Crynodeb o'r Bil a'i Amcanion Polisi

4.      Mae'r Bil yn cael ei noddi gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Nod Llywodraeth y DU yw y bydd y Bil yn datganoli rhagor o bwerau i gynghorau ac i gymdogaethau, yn rhoi rheolaeth i gymunedau lleol dros wneud penderfyniadau, gan gynnwys gwneud hynny drwy ddefnyddio cymhellion ariannol. Mae'n ddarn  allweddol o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar ystod eang o'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ar dai, cynllunio a llywodraeth leol.

5.      Mae darpariaethau yn y Bil a fydd yn fodd i rymuso pobl leol ac i ryddhau llywodraeth leol o reolaeth ganolog a rhanbarthol. Mae hefyd yn darparu y caiff cymunedau lleol fod yn rhan o dwf lleol, ac ar gyfer system gynllunio fwy effeithlon a lleol. 

        

Y darpariaethau yn y Bil y ceisir cydsyniad ar eu cyfer

6.      Cymalau21 i 26 o'r Bil (Atebolrwydd Llywodraeth Leol o ran Cyflogau): Nod y darpariaethau hyn yw sicrhau mwy o dryloywder ynghylch faint y mae awdurdodau lleol yn ei wario ar staff er mwyn helpu i ennyn gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd ac i wneud arbedion effeithlonrwydd.  O dan y darpariaethau hyn, mae'n ofynnol i'r awdurdodau ddatblygu a chyhoeddi polisi blynyddol ar gyflogau uwch-swyddogion.  Yr uwch-swyddogion y bydd y darpariaethau hyn yn ymdrin â hwy fydd y rheini a benodwyd yn unol â thelerau ac amodau'r Cyd-bwyllgor Ymgynghori.  Bydd y cynigion yn gymwys i brif gynghorau ac i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. 

 

7.      Mae'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â datganiadau polisi ynghylch cyflogau uwch-swyddogion yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol fel y darperir ar ei gyfer ym Mater 12.5(a) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a hynny oherwydd eu bod yn ymwneud â “gwneud trefniadau gan awdurdodau Cymreig perthnasol i sicrhau gwelliant yn y ffordd y mae eu swyddogaethau yn cael eu harfer”, sef sut y maent yn penderfynu ar delerau ac amodau eu huwch-aelodau staff.

 

8.      Cymalau 27 ac 28 o'r Bil (Dileu'r ddyletswydd i Hybu Democratiaeth Leol a Dileu'r Ddyletswydd Ddeisebau): Mae'r darpariaethau hyn yn y Bil yn diddymu'r dyletswyddau a roddwyd ar yr awdurdodau lleol gan Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 (Deddf 2009) i ddarparu cyfleusterau ar gyfer llunio deisebau, ac i hyrwyddo democratiaeth.  Nid yw adrannau perthnasol Deddf 2009 wedi'u cychwyn yng Nghymru eto, a dim ond yn rhannol y maent wedi dod i rym yn Lloegr .

 

O dan yr adrannau yn Neddf 2009 sy'n ymdrin â deisebau, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynllun ar gyfer trafod deisebau a gyflwynir ar bapur neu ar ffurf electronig, ac mae hefyd yn ofynnol iddynt gyhoeddi'r cynllun hwnnw a chydymffurfio ag ef. Mae'r adrannau hyn hefyd yn rhoi dyletswyddau arnynt ynghylch darparu cyfleusterau ar gyfer cyflwyno deisebau electronig. Y bwriad oedd ceisio sicrhau mwy o dryloywder yn y broses gwneud penderfyniadau a oedd yn gysylltiedig â deisebau a gyflwynir i brif awdurdodau lleol, drwy ei gwneud yn ofynnol iddynt ymateb i ddeisebau a oedd yn cwrdd â meini prawf penodol ac i drefnu bod ymatebion i ddeisebau ar gael yn gyhoeddus.

 

Mae'r ddyletswydd i hyrwyddo democratiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hyrwyddo dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd am gyrff cyhoeddus yn eu hardaloedd, o ran yr hyn y mae'r cyrff hyn yn ei wneud, o ran eu trefniadau democrataidd ac o safbwynt sut y gall y cyhoedd fod yn rhan o'r trefniadau hynny. Bernir, yng Nghymru ac yn Lloegr, nad yw'r darpariaethau hyn yn rhai effeithiol.

 

9.      Mae'r darpariaethau yn y Bil sy'n diddymu'r dyletswyddau yn ymwneud â deisebau a hybu democratiaeth yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol fel y darperir ar ei gyfer ym Mater 12.5 (b) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol ddeddfu ar gyfer gwneud trefniadau gan awdurdodau ar gyfer cynnwys, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, bobl sy'n debygol o gael eu heffeithio gan yr arferiad o swyddogaethau neu sy'n debygol o fod â buddiant ynddynt.

 

10.    Cymalau124 a 125 o'r Bil (Digartrefedd – Cyflawni dyletswyddau digartrefedd drwy'r sector rhentu preifat): Mae'r cymalau hyn yn diwygio Deddf Tai 1996 mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau digartrefedd gan awdurdodau lleol yn achos pobl ddigartref. Mae gan awdurdodau lleol ystod o ddyletswyddau mewn perthynas â phobl ddigartref, ac yn yr achosion hynny lle y mae'r bobl sy'n aelodau o'r aelwyd yn un o'r categorïau angen y rhoddir blaenoriaeth iddynt a lle nad ydynt wedi bod yn gyfrifol am eu gwneud eu hunain yn ddigartref, mae rhwymedigaeth ar yr awdurdod i ddod o hyd i gartref dros dro ar eu cyfer nes iddynt gael eu hailgartrefu. Ar hyn o bryd, mae'r awdurdodau'n bodloni'r ddyletswydd i ailgartrefu drwy ddarparu tai cymdeithasol, ac er y caniateir iddynt fodloni'r ddyletswydd drwy ddarparu tai yn y sector rhentu preifat, rhaid iddynt gael cydsyniad yr ymgeisydd cyn gwneud hynny.  Bydd y diwygiad yn caniatáu i awdurdod lleol fodloni'r ddyletswydd hon drwy ddarparu tai yn y sector rhentu preifat heb gael cydsyniad yr ymgeisydd (yn ddarostyngedig i drefniadau diogelu penodol).

 

11.    Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â Digartrefedd o dan Fater 11.8 o Ran 1 i Atodlen 5 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddeddfu mewn perthynas â Chymru ac mae'r ddarpariaeth hon o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol".

 

12.    Cymal 150 o'r Bil (Trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth y Swyddfa ar gyfer Tenantiaid a Landlordiaid Cymdeithasol (y Swyddfa) i'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: Mae cymal 150(2)(a)-(c) yn diwygio Rhan 1 o Atodlen 16 i Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 er mwyn dileu'r Swyddfa (sy'n cael ei alw'n Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid).  Mae Deddf 2008 yn cael ei diwygio er mwyn creu Pwyllgor Rheoleiddio'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau a throsglwyddo swyddogaethau'r Swyddfa i'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau (hy swyddogaethau yn ymwneud â rheoleiddio darparwyr tai cymdeithasol sydd wedi'u cofrestru yn Lloegr).  Mae'r cymalau hyn hefyd yn gwneud rhai newidiadau i'r swyddogaethau rheoleiddio.

 

13     Mae gan y Cynulliad Cenedlaethol gymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â Mater 11.2 (darparwyr tai cymdeithasol) ac 11.3 (cyrff tai cymdeithasol) yn Rhan 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddeddfu mewn perthynas â Chymru. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer Cymru yn y Bil sy'n ymwneud â diwygio'r Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid, ond oherwydd bod rhai darparwyr tai cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr yn landlordiaid ar anheddau yng Nghymru, bernir bod y darpariaethau hyn o fewn y cymhwysedd deddfwriaethol.  

 

14.    Barn Llywodraeth Cymru, felly, i'r graddau y mae'r darpariaethau hyn yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol o dan Fater(ion) 12.5a, 12.5b, 11.8, 11.2 ac 11.3, yw bod angen, yw bod angen cytundeb y Cynulliad Cenedlaethol o dan Reol Sefydlog 26. Mae Rheol Sefydlog 26 yn rhagnodi bod yn rhaid cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol. 

 

Manteision defnyddio'r Bil hwn

 

15.    Bydd y cymalau newydd hyn yn:

·    sicrhau mwy o dryloywder ynghylch faint y mae awdurdodau lleol yn ei wario ar staff er mwyn helpu i ennyn gwell dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd ac i wneud arbedion effeithlonrwydd;

·    diddymu darpariaethau, y bernir nad ydynt yn effeithiol, sy'n rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol mewn perthynas â derbyn a thrafod deisebau a hybu democratiaeth;

·    diwygio dyletswyddau awdurdodau lleol at bobl ddigartref;

·    trosglwyddo swyddogaethau oddi wrth y Swyddfa ar gyfer Tenantiaid a Landlordiaid Cymdeithasol i'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau.

 

16.    Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn gan Senedd y DU gan mai dyma'r dull deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur o alluogi'r darpariaethau hyn i fod yn gymwys yng Nghymru.

 

17.    Gan hynny, mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn wedi cael ei osod, a'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei gyflwyno, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i'w hystyried.

 

Goblygiadau Ariannol

 

18.    Ni ragwelir y bydd unrhyw oblygiadau ariannol i Lywodraeth Cynulliad Cymru na fydd modd eu hysgwyddo fel rhan o'r rhwymedigaethau sydd arni ar hyn o bryd, o ganlyniad i weithredu darpariaethau perthnasol Bil Lleoliaeth Senedd y DU.

 

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Chwefror 2011     

CYNNIG CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL

 

Y BIL LLEOLIAETH

 

“Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai  Senedd y DU ystyried darpariaethau sy'n ymwneud ag atebolrwydd llywodraeth leol o ran cyflogau, dileu'r ddyletswydd i hybu democratiaeth leol, dileu'r ddyletswydd ddeisebau, cyflawni dyletswyddau digartrefedd drwy'r sector rhentu preifat ac ynghylch diwygio'r Awdurdod Gwasanaethau Tenantiaid yn Rhannau 1 a 6 o'r Bil Lleoliaeth (“y Bil”), fel y'i cyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 13  Rhagfyr 2010, i'r graddau y mae'r darpariaethau hyn o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

 

Cyflwynir y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol hwn gan  Carl Sargeant AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol o dan Rheol Sefydlog 26.4 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Dyddiad

ATODIAD 2

 

MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL

Y BIL LLEOLIAETH

 

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

1. “Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM4642, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch pwerau cyffredinol a phwerau codi ffioedd i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru a hawl y gymuned i brynu, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”

 

Y Cefndir

 

2. Mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ym mharagraff 1 uchod wedi'i gyflwyno gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau, o dan Reol Sefydlog 29.6 o Reolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol). Mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn yn cael ei osod o dan Reol Sefydlog 29.2. Mae Rheol Sefydlog 29 yn rhagnodi bod yn rhaid cyflwyno Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru at unrhyw ddiben sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

 

3. Cafodd y Bil Lleoliaeth (y Bil) ei gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2010. Mae copi o'r Bil i'w weld yn: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

Crynodeb o'r Bil a'i Amcanion Polisi

 

4.  Mae'r Bil yn cael ei noddi gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Nod Llywodraeth y DU yw y bydd y Bil yn datganoli rhagor o bwerau i gynghorau ac i gymdogaethau, yn rhoi rheolaeth i gymunedau lleol dros wneud penderfyniadau, gan gynnwys gwneud hynny drwy ddefnyddio cymhellion ariannol. Mae'n ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar ystod eang o'r ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli ar dai, cynllunio a llywodraeth leol.  

5.  Mae darpariaethau yn y Bil a fydd yn fodd i rymuso pobl leol ac i ryddhau llywodraeth leol o reolaeth ganolog a rhanbarthol. Mae hefyd yn darparu y caiff cymunedau lleol fod yn rhan o dwf lleol, ac ar gyfer system gynllunio fwy effeithlon a lleol.  

6. Mae Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol (NNDM4642) yn ymwneud â'r Bil Lleoliaeth wedi'i gyflwyno eisoes yn y Cynulliad Cenedlaethol, a rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ei gydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil, i'r graddau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu hystyried gan y Senedd.

 

7. Mae'r Memorandwm a oedd yn gysylltiedig â'r Cynnig hwnnw wedi'i atodi yn Atodiad 1 .

 

Darpariaethau pellach y mae angen cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol ar eu cyfer, ac amcanion polisi.

 

8. Ers i'r Bil gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2010, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno nifer o ddarpariaethau pellach drwy gyfrwng gwelliannau gan y Llywodraeth.

 

9.  Cafodd nifer o welliannau eu cyflwyno gan Llywodraeth y DU ar 10 Mai 2011 a oedd yn cynnig y dylai'r cymalau yn y Bil sy'n rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol a phwerau codi ffioedd i awdurdodau tân ac achub penodol yn Lloegr , hefyd fod yn gymwys i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru . Mae'r gwelliannau a gyflwynwyd i'w gweld ar wefan y Senedd yn: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

10.  Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y cymwyseddau y cyfeirir atynt ym mharagraff 9 yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol fel y nodir yn Rhan 4 a Phwnc 7 (gwasanaethau tân ac achub a diogelwch tân) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. 

 

11. Mae gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU ar 10 Mai 2011 yn cynnig bod Cymalau newydd yn cael eu mewnosod i'r Bil. O ran Cymru, mae un o'r Cymalau'n darparu y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â thir o werth cymunedol yng Nghymru .  Mae'r gwelliant a gyflwynwyd i'w weld ar wefan Senedd y DU yn: http://services.parliament.uk/bills/2010-11/localism.html

 

12. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 11 yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol fel y nodir ym Mhwnc 12 (llywodraeth leol) yn Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

13. Gan fod y gwelliannau arfaethedig i'r Bil Lleoliaeth yn mynd y tu hwnt i'r cydsyniad a roddwyd yn flaenorol gan y Cynulliad Cenedlaethol, mae angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol pellach o dan Reol Sefydlog 29.

 

14. Dyma'r hyn y bydd y gwelliannau hyn i'r cymalau sydd yn y Bil eisoes, ynghyd â'r cymalau newydd, yn ei wneud:

 

a)  Pŵer Cyffredinol a Phwerau Codi Ffioedd ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub

 

Rhoi i awdurdodau tân ac achub yng  Nghymru bwerau sy'n cyfateb i'r rheini sydd yn y Bil pan gânt eu cyflwyno ar gyfer awdurdodau tân ac achub yn Lloegr . Bydd y darpariaethau hyn yn ymestyn pwerau cymhwysedd ar gyfer  awdurdodau tân ac achub penodol yn Lloegr .  Yn unol â'r pwerau hyn, bydd yr awdurdodau tân ac achub yn gallu gwneud unrhyw beth sydd, yn eu barn hwy, yn briodol er mwyn cyflawni unrhyw un neu rai o'u swyddogaethau,  unrhyw beth sydd, yn eu barn hwy, yn briodol at ddibenion sy'n atodol i'w swyddogaethau, unrhyw beth sydd, yn eu barn hwy, yn briodol at ddibenion sy'n anuniongyrchol atodol i'w swyddogaethau, ac unrhyw beth sydd, yn eu barn hwy, yn gysylltiedig ag unrhyw un neu rai o'u swyddogaethau neu sy'n atodol i'w swyddogaethau.  Byddant, yn ogystal, yn gallu gwneud unrhyw beth at ddiben masnachol y maent wedi'u hawdurdodi i'w wneud fel arall.

 

I bob pwrpas, bydd awdurdodau tân ac achub yn Lloegr  yn gallu gwneud unrhyw beth, cyhyd ag y byddont o'r farn bod y gweithgarwch yn gysylltiedig ag unrhyw un neu rai o'u swyddogaethau fel Awdurdod Tân ac Achub.  Nid oes yn rhaid i'r gweithgarwch fod yn un uniongyrchol, a bydd yn ddigon os bwriedir i'r gweithgarwch fod o fudd wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau. Wrth arfer y pwerau hyn, bydd yr un cyfyngiadau ar yr awdurdodau tân ac achub ag ar yr awdurdodau lleol yn Lloegr o dan y pŵer cymhwysedd cyffredinol newydd, sef na cheir defnyddio'r pŵer i godi trethi nac i fenthyca arian (ac eithrio yn unol â'r trefniadau sy'n bodoli eisoes) ac ni cheir ei ddefnyddio i wrth-wneud deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes er mwyn galluogi awdurdodau tân ac achub i wneud unrhyw beth y mae unrhyw statud yn eu gwahardd rhag ei wneud eisoes.

 

Roedd y Bil hefyd yn ymestyn pwerau awdurdodau tân ac achub yn Lloegr i godi ffioedd.   Yn unol â'r pwerau estynedig hynny, bydd awdurdodau tân ac achub yn cael codi ffi ar unrhyw berson (gan gynnwys awdurdod tân ac achub arall) am unrhyw gamau a gymerant yn y DU, (gan adennill hyd at y costau llawn), yn ddarostyngedig i nifer o eithriadau penodol, er enghraifft, diffodd tanau, neu amddiffyn bywydau ac eiddo rhag tanau.  Mae'r pŵer gan yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd, drwy gyfrwng gorchymyn, i ddatgymhwyso'r pŵer i godi ffioedd mewn perthynas â darparu gwasanaethau penodol.

 

Mae'r pŵer sydd gan yr awdurdodau tân ac achub i godi ffioedd ar hyn o bryd i'w weld yn adran 19 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.  Mae'n caniatáu i Weinidogion Cymru ragnodi, drwy gyfrwng gorchymyn, y gweithgareddau y caniateir i'r  awdurdodau tân ac achub godi ffi amdanynt.  O dan y pwerau newydd sy'n cael eu cyflwyno, bydd awdurdodau tân ac achub yn Lloegr  yn cael pŵer awtonomaidd i godi ffioedd ac ni fydd angen i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud gorchymyn yn rhoi'r awdurdod iddynt godi ffioedd.

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried y cymalau sy'n ymdrin â phwerau cymhwysedd yr awdurdodau tân ac achub yn Lloegr a'u pwerau i godi ffioedd, ac maent wedi penderfynu y dylai'r pwerau hynny fod yn gymwys i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.   Effaith y gwelliannau a gyflwynwyd am y mater hwn gan Senedd y DU yn ystod y cyfnod adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin yw y bydd y pwerau hyn yn gymwys i awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. 

 

b) Gwelliant ynghylch Hawl y Gymuned i Brynu - cymalau ynghylch darparu cyngor a chymorth

 

Mae'n darparu bod awdurdod perthnasol yn cael darparu cyngor a chymorth mewn perthynas â thir o werth cymunedol yng Nghymru a Lloegr . O ran Cymru, yr awdurdod perthnasol yw Gweinidogion Cymru.  Bydd y gwelliant yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud unrhyw beth sydd, yn eu barn hwy, yn briodol er mwyn rhoi cyngor a chymorth i unrhyw un mewn cysylltiad â chymryd camau o dan y darpariaethau sy'n ymdrin â hawl y gymuned i brynu, neu mewn cysylltiad â pharatoi i gymryd camau o'r fath, neu eu hystyried neu benderfynu arnynt, neu bydd yn eu galluogi i roi cyngor a chymorth i grŵp buddiannau cymunedol mewn cysylltiad â gwneud cynnig am dir sydd ar restr awdurdod neu mewn cysylltiad â chaffael tir o'r fath neu baratoi i wneud cynnig amdano neu mewn cysylltiad â gwneud defnydd effeithiol o dir o'r fath. Caiff cyngor neu gymorth gynnwys gwneud trefniadau neu ddarparu cymorth ariannol.

 

15. Gan hynny, mae'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol hwn wedi'i osod, ac mae'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol wedi'i gyflwyno, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i'w hystyried.

 

Manteision defnyddio'r Bil hwn

 

16. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymdrin â'r darpariaethau hyn yn y Bil hwn gan Senedd y DU gan mai dyma'r dull deddfwriaethol mwyaf priodol a chymesur o alluogi'r darpariaethau hyn i ddod yn gymwys yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd, a chan y bydd yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno deddfwriaeth briodol sy'n gydnaws â blaenoriaethau a phryderon Cymru.

 

Goblygiadau Ariannol

 

17. Bydd goblygiadau ariannol unrhyw ymgynghoriad, unrhyw ddeddfwriaeth neu unrhyw ganllawiau a fydd yn deillio o benderfyniad yn y dyfodol i arfer y pŵer i wneud Gorchmynion o dan y darpariaethau perthnasol yn cael eu hystyried yn llawn o ran eu fforddiadwyedd ac mewn Arfarniad Effaith Rheoleiddiol a fyddai'n cynnwys dadansoddiad o'r costau a'r manteision.

 

Carl Sargeant AC

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Chymunedau

Mai 2011